Wednesday 4 April 2012

Cynhadledd i Fyfyrwyr Ôl-raddedig - Canolfan Richard Burton

Ymchwil Newydd ym maes Astudiaethau Cymreig
Cynhadledd i Fyfyrwyr Ôl-raddedig
Dydd Llun 21 a Dydd Mawrth 22 Mai 2012
Ystafell Gynadledda y Celfyddydau a’r Dyniaethau
B02/03 Adeilad James Callaghan


Cyfle i fyfyrwyr MA trwy ycmwhil, M.Phil a PhD sy'n gweithio ar Gymru ddod at ei gilydd i drafod eu hymchwil.

Galwad am Bapurau:

Mae Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton yn galw am bapurau gan ymchwilwyr ôl-raddedig (MA trwy ymchwil, M. Phil. a PhD) sydd yn gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth ar bynciau sy'n ymwneud â Chymru.

Bydd y papurau yn para 20 munud, ac mi fyddant yn cael eu cyflwyno mewn fforwm rhyngddisgyblaethol. Ni fydd holl aelodau’r gynulleidfa felly yn gwbl hyddysg yn y gwahanol feysydd, a dylid rhoi peth sylw i gyd-destun damcaniaethol y gwaith (theoretig, methodolegol a.y.b.) er mwyn galluogi cysylltiadau a chymariaethau rhwng meysydd gwahanol.

Gall y papur gynnig trosolwg o'r prosiect ymchwil yn ei gyfanrwydd, neu ganolbwyntio ar un neu fwy o rannau ohono. Gall myfyrwyr sydd ar ddechrau eu prosiect ymchwil fanylu ar un cwestiwn ymchwil gan archwilio’r dulliau mwyaf addas i ymwneud â’r cwestiwn hynny, neu gall fyfyrwyr sy’n agosau at gyflwyno eu gwaith edrych ar bosibiliadau ar gyfer ymchwil pellach.

Anfonwch gynigion (dim mwy na un ochr A4 o hyd) ar gyfer papurau (yn y Gymraeg neu’r Saesneg) at Dr. Elain Price, Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe.
e.price@swansea.ac.uk

Dyddiad Cau : 23 Ebrill 2012